NNDM7965 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.

2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.

3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai "ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol".

 4. Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter gymunedol lwyddiannus.

5. Yn nodi adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnydd Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru.

6. Yn nodi ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai
fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.

7. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i archwilio'r gwaith o ddatblygu rhaglen newydd o weithio gyda chymunedau a grwpiau cymunedol

8. Yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.

9. Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.

10. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu cyflwr sy'n galluogi gweithredu cymunedol;

b) deddfu i gyflwyno hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol 

Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir

Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru