NDM7963 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022 | I'w drafod ar 23/03/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y genedl.

2. Yn nodi'r effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.

3. Yn credu bod angen chwyldro amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;

b) defnyddio'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig i gorffori diogelwch bwyd er lles y cyhoedd;

c) gwneud diogelwch bwyd yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys cymhellion;

d) cefnogi'r Bil Bwyd (Cymru) arfaethedig.

Gwelliannau

NDM7963 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2022

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi pwysigrwydd ffermydd teuluol bach cynhyrchiol o ran cynnal yr economi, yr iaith a'r diwylliant yng nghefn gwlad Cymru.

Yn credu y bydd toriadau i gyllid amaethyddol Cymru gan Lywodraeth y DU, ynghyd â Chytundebau Masnach Rydd newydd gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd, yn cael effaith negyddol bellach ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;

b) amddiffyn diogelwch bwyd a chynhyrchu bwyd drwy ddarparu taliadau sefydlogrwydd fel rhan o'r cynllun cymorth ffermio nesaf;

c) datblygu ffyrdd o leihau costau mewnbwn i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd, er mwyn lleihau cost y bwyd y maent yn ei gynhyrchu i ddefnyddwyr.

Cyflwynwyd gan

NDM7963 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2022

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn gresynu mai'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system fwyd;

b) creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.