NNDM7956 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y gellir cydnabod a chofio hanes a diwylliant Cymru drwy gadw adeiladau sy'n ein hatgoffa'n weledol o'n treftadaeth ddiwylliannol;
b) bod statws rhestredig yn diogelu adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol i genedlaethau'r dyfodol ac yn rhoi cyfle gweledol i gymunedau lleol ymfalchïo yn eu hamgylchedd;
c) y dylid blaenoriaethu ail-lunio ac ail-ddychmygu adeiladau hanesyddol dros eu dymchwel, am resymau diwylliannol yn ogystal ag amgylcheddol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu fframwaith Cadw ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch adeiladau rhestredig er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
b) ehangu cylch gwaith awdurdodau lleol i'w gwneud yn haws dyfarnu statws gwarchodedig i adeiladau o bwysigrwydd diwylliannol lleol;
c) ymrwymo i gynyddu tryloywder yn y ffordd y mae Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn cyflawni ei rôl.