NDM7946 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 02/03/2022 | I'w drafod ar 09/03/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod angen hyd at 12,000 o anheddau newydd y flwyddyn yng Nghymru.

2. Yn mynegi pryder difrifol bod nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd wedi gostwng 30 y cant i 4,314 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod nifer y cartrefi a gwblhawyd wedi gostwng 23 y cant i 4,616.

3. Yn credu bod y methiant i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru yn cael effaith andwyol ar argaeledd eiddo.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) hwyluso'r gwaith o adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn;

b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, ailfuddsoddi enillion gwerthiant i fwy o dai cymdeithasol a diogelu cartrefi rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd;

c) gweithio gydag awdurdodau cynllunio i weld mwy o dir yn cael ei ddyrannu mewn cymunedau sy'n wynebu anawsterau fforddiadwyedd lleol, gan gynnwys sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer prosiectau hunanadeiladu;

d) rhoi'r gorau i'r cynlluniau ar gyfer cwmni adeiladu cenedlaethol a chefnogi twf y sector adeiladu cartrefi preifat.

Gwelliannau

NDM7946 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu hwynebu sy’n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru.

2. Yn croesawu’r buddsoddiad ym maes tai gan Lywodraeth Cymru.

3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

4.   Yn nodi’r ymrwymiad i sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i gefnogi ein cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.