NDM7941 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2022 | I'w drafod ar 08/03/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2022-23 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;

b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt;

c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.