NDM7923 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 09/02/2022 | I'w drafod ar 16/02/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig y coronafeirws.
2. Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato.
3. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r fformiwla ariannu llywodraeth leol bresennol yn addas i'r diben.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol yng Nghymru i sicrhau ei fod yn darparu cyllid teg ar gyfer pob rhan o'r wlad.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.
Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei bod yn parhau i fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.