NDM7913 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2022 | I'w drafod ar 15/02/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Awst 2021 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2021 a 28 Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Iechyd a Gofal (Saesneg yn unig)