NNDM7902 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.

2. Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.

3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai "ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol".

4. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector o ran archwilio'r gwaith o ddatblygu rhaglen newydd o weithio gyda chymunedau a grwpiau cymunedol

5. Yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.

6. Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiol yn rhan allweddol o'r broses o adeiladu Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cydgynhyrchu strategaeth cymunedau i ddatblygu cyflwr galluogi ar gyfer gweithredu cymunedol;

b) deddfu i gyflwyno hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol