NDM7895 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2022 | I'w drafod ar 26/01/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at effaith andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys:

a) dysgwyr yng Nghymru yn colli mwy o ddyddiau o'u haddysg na dysgwyr mewn rhannau eraill o'r DU yn ystod y pandemig;

b) casgliad Estyn bod holl sgiliau mathemateg, darllen, iaith Gymraeg a chymdeithasol dysgwyr wedi dioddef o ganlyniad i gau ysgolion.

2. Yn nodi'r diffyg parhaus o ran cyllid fesul disgybl yng Nghymru o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i oresgyn effaith y pandemig ar ddysgwyr Cymru er mwyn sicrhau y gall pob person ifanc gyrraedd ei botensial, drwy:

a) gwarantu y bydd ysgolion yn aros ar agor;

b) cael gwared ar y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau cyn gynted â phosibl;

c) cyflymu'r broses o gyflwyno addasiadau awyru gwell mewn amgylcheddau dysgu;

d) codi'r gwastad o ran cyllid ysgolion ledled Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg yng Nghymru o'i chymharu â chenhedloedd eraill y DU.

Gwelliannau

NDM7895 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn gresynu at effaith andwyol COVID-19 ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd camau priodol i sicrhau bod addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei flaenoriaethu a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau i leihau mesurau diogelu rhag COVID mewn ysgolion yn unol â'r data.

3. Yn credu bod blaenoriaethu lles disgyblion a staff yn hanfodol wrth i ni ymateb i'r pandemig.

4. Yn nodi canfyddiadau'r Sefydliad Polisi Addysg bod Cymru'n gwario'r swm mwyaf fesul disgybl ar adfer addysg yn y DU.

5. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar:

a) £50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi ysgolion i ymgymryd â gwaith atgyweirio a gwella, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, megis gwella awyru;

b) £45 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i gefnogi ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig ac i baratoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd.

Comparing education catch-up spending within and outside the UK - Education Policy Institute (epi.org.uk) (Saesneg yn unig)

 

NDM7895 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2022

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at effaith andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Cyflwynwyd gan

NDM7895 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2022

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw effeithiau y mae'r pandemig COVID-19 parhaus yn eu cael ar blant a phobl ifanc yn y dyfodol, yn enwedig o ran dysgu ac iechyd meddwl, yn cael eu lleihau drwy fuddsoddi mewn:

a) technoleg hidlo aer i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gadw ysgolion yn agored ac yn ddiogel; 

b) darpariaeth iechyd meddwl i flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant.

Cyflwynwyd gan