NDM7891 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 12/01/2022 | I'w drafod ar 19/01/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.

2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu map ffordd i lacio'r cyfyngiadau, gan gynnwys:

a) caniatáu i fwy na 50 o bobl ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored;

b) cael gwared ar y rheol chwech mewn lletygarwch a sinemâu;

c) rhoi terfyn ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl a all fynychu digwyddiad chwaraeon awyr agored.

Gwelliannau

NDM7891 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2022

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:

a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;

b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;

c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a

d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.