NNDM7889 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 06/06/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mandadau gweithio gartref COVID wedi creu amgylchedd gwaith newydd sydd wedi cymylu'r llinellau rhwng y maes preifat a'r maes gwaith.
2. Yn nodi bod yr amgylchedd newydd hwn wedi arwain at gynnydd yn nifer y cyflogeion y disgwylir iddynt fod ar gael y tu allan i oriau gwaith.
3. Yn cydnabod bod yr anghydbwysedd hwn mewn gwaith a bywyd preifat wedi arwain at ddirywiad yn lles ac iechyd gweithwyr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu i fynd i'r afael â'r mater drwy weithredu diwygiadau tebyg i'r rhai a gyflwynwyd yn ddiweddar ym Mhortiwgal, lle mae rhai cyflogwyr yn cael eu gwahardd rhag cysylltu â gweithwyr y tu allan i oriau gwaith arferol.