NDM7883 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2022 | I'w drafod ar 18/01/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef 'Difrod troseddol i gofebau: dull treial', 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar brotestiadau un person', 'Trosedd yn ymwneud â byw ar dir heb ganiatâd mewn cerbyd neu gyda cherbyd', ‘Diwygiadau i bwerau sy’n bodoli', a 'Canllawiau ar arfer pwerau'r heddlu mewn perthynas â thresmasu ar dir etc', i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2021, 20 Rhagfyr 2021 a 7 Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:


Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
 (Saesneg yn unig)