NDM7881 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2022 | I'w drafod ar 16/02/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;
b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.