NDM7877 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022 | I'w drafod ar 12/01/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.
2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
3. Yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.
Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.