NDM7871 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2021 | I'w drafod ar 15/12/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi ymgyrch COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19.
2. Yn croesawu galwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19 sy'n benodol i Gymru.
3. Yn nodi y bydd ymchwiliad COVID-19 a arweinir gan farnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyfarfodydd Prif Weinidog Cymru ag aelodau grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru,
b) ymchwiliad ar draws y DU ynghylch y pandemig a fydd yn ystyried y penderfyniadau a wnaed a’r camau a gafodd eu cymryd gan ac o fewn y pedair gwlad.
c) bydd ymchwiliad COVID-19 o dan arweiniad barnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.
2.Yn croesawu’r sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad y DU yn cynnwys sylw priodol i Gymru.