NDM7861 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021 | I'w drafod ar 08/12/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad Holden ar fethiannau yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

2. Yn gresynu at:

a) y ffaith ei bod wedi cymryd bron i wyth mlynedd a chyfarwyddyd gan y comisiynydd gwybodaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi'r adroddiad;

b) yr oedi rhwng cyhoeddi'r adroddiad a gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig;

c) methiant y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad;

d) diffyg atebolrwydd am berfformiad gwael gwasanaethau iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru;

e) effaith ddinistriol y methiannau hyn ar staff, cleifion a'u hanwyliaid.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymddiheuro i staff, cleifion a theuluoedd y rhai yr effeithiodd y methiannau yn uned Hergest yn andwyol arnynt;

b) ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau fel mater o drefn ac mewn modd amserol yn y dyfodol; 

c) cyflawni gwelliannau radical yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru; 

d) cynnal adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyda chleifion, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill;

e) cyhoeddi gwybodaeth ystyrlon am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, gan gynnwys amseroedd aros ar gyfer asesiadau iechyd meddwl a thriniaeth, fel therapïau siarad;

f) sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn 24 awr ar gyfer pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl;

g) gweithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. 

Adroddiad Holden (Saesney yn unig)

Gwelliannau

NDM7861 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2021

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2, Yn nodi’r cynnydd a wnaed i wella ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i’w gwneud yn fwy diogel, ers cyhoeddi argymhellion Holden yn 2015.

3. Yn cydnabod yr heriau mawr sy’n parhau yn y gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r gwelliannau sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw.

Adroddiad Holden 2014 (Saesneg yn unig)