NDM7855 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2021 | I'w drafod ar 01/12/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad oes gwellhad ar ei gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis.
2. Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor.
3. Yn cydnabod bod mynediad teg a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain.
4. Yn credu bod effaith yr oedi wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn cael effaith enfawr ar yr amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu proses nad yw'n seiliedig ar brawf modd.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sefydlu canolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol i wella graddfa ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd.