NDM7843 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2021 | I'w drafod ar 15/12/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno i'r Senedd.

2. Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn ceisio defnyddio deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mewn grym a Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r setliad datganoli a lleihau pwerau'r Senedd.

3. Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r broses ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben;

b) egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol;

c) gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r effaith ar y setliad datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y DU.