NDM7841 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021 | I'w drafod ar 24/11/2021

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd sef, Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yma, a osodwyd ar 17 Mawrth 2021;

b) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 5 Hydref 2021;

c) Ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig Awst 2021;

d) Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 3 Medi 2021;

e) Ymateb y Llywydd i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 22 Medi 2021;

f) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef, Felly beth sy’n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol, dyddiedig 8 Hydref 2021; ac       

g) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sef Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020, dyddiedig 8 Hydref 2021.

Adroddiadau ac ymatebion