NDM7833 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2021 | I'w drafod ar 02/03/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr;
b) lleihau effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd;
c) ei gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei gorfodi gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad cyffredinol a roddir gan Weinidogion Cymru, neu'n unol â hynny.