NNDM7832 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol a fyddai'n gwneud darpariaethau ar gyfer gofynion a pholisïau cyfreithiol a fyddai'n helpu i ddarparu datblygiad morol sy'n diogelu'r amgylchedd.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) creu dyletswydd i Lywodraeth Cymru hwyluso'r gwaith o greu Cynllun Datblygu Morol Cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd;

b) gweithredu ardaloedd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol mewn ffordd sy'n asesu addasrwydd safleoedd yn erbyn y rhyngberthnasau rhwng gweithgareddau, eu heffeithiau cronnol ar yr amgylchedd morol a diwydiannau morol eraill drwy fapio a dadansoddi cynhwysfawr;

c) cymryd camau brys i fynd i'r afael â'r methiant i gyflawni statws amgylcheddol da a sicrhau nad yw datblygu morol yn gwaethygu hyn;

d) darparu mecanwaith/rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n casglu data amgylcheddol ar rywogaethau a chynefinoedd morol, er mwyn llywio cyfyngiadau datblygu yn well, mapio a chymorth yn y gwaith o greu ac ehangu sylfaen dystiolaeth y gellir seilio Cynllun Datblygu Morol arni;

e) cyflwyno mesurau cadwraeth wedi'u targedu ar gyfer bywyd gwyllt morol, gan gynnwys drwy strategaeth cadwraeth adar môr a mecanwaith ariannu cysylltiedig;

f) ei gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys gofynion ar adfer cynefinoedd gwely'r môr; dyluniad y strwythurau is-arwyneb fel riffiau artiffisial a; paentio un llafn ar bob tyrbin yn gwbl groes i'r lleill fel ffordd o leihau nifer yr achosion o adar yn cael eu taro;

g) datblygu strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y fferm wynt.