NDM7831 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2021 | I'w drafod ar 09/02/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol argyfwng tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad;

b) lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf;

c) cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw.