NDM7827 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 10/11/2021 | I'w drafod ar 17/11/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

b) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19;

c) ymdrechion staff GIG Cymru i sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus yn fyd-eang.

2. Yn credu, gyda'r sefyllfa a'r profiad arweinyddiaeth hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull byrddau iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i nodi a darparu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a thechnoleg brechlyn yn cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant brechlynnau byd-eang a fydd yn achub bywydau. 

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7827 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2021

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi darparu £548 miliwn i ymrwymiad marchnad COVAX, sy'n darparu 1.8 biliwn o frechlynnau i hyd at 92 o wledydd er mwyn sicrhau mynediad teg byd-eang i frechlynnau COVID-19.

Yn cydnabod, fel rhan o Lywyddiaeth G7 y DU, fod Llywodraeth y DU wedi hyrwyddo mynediad teg i frechlynnau, therapiwteg a diagnosteg ac wedi sicrhau ymrwymiad AstraZeneca i ddosbarthu ei frechlyn ar sail ddi-elw.

Yn cydnabod bod rhwydwaith Llywodraeth y DU o gynghorwyr iechyd mewn gwledydd perthnasol yn cefnogi llywodraethau gwledydd hynny i dderbyn a darparu brechlynnau a bydd yn rhannu 100 miliwn dos ychwanegol erbyn mis Mehefin 2022.