NDM7818 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2021 | I'w drafod ar 09/11/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i foderneiddio gweinyddu etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall pobl bleidleisio a bod eu pleidleisiau yn cael eu cyfrif.   

2. Yn nodi egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwygio Etholiadol fel y nodwyd yn natganiad ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar 15 Gorffennaf 2021.

3. Yn gofidio am y cynigion gan Lywodraeth y DU i gyflwyno mesurau ar gyfer adnabod pleidleiswyr a chyfyngu ar fynediad at bleidlais drwy’r post a phleidlais drwy ddirprwy, a fydd yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl yng Nghymru o’u hawliau democrataidd sylfaenol.

Datganiad Ysgrifenedig: Fframwaith ar gyfer diwygio etholiadol – 15 Gorffennaf 2021

Gwelliannau

NDM7818 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2021

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylai etholiadau yng Nghymru fod yn rhydd ac yn deg.

2. Yn croesawu Bil etholiadau Llywodraeth y DU a'i ddarpariaethau i gryfhau uniondeb etholiadau.

3. Yn nodi bod cyflwyno mesurau ar gyfer adnabod pleidleiswyr wedi'i gefnogi gan y Comisiwn Etholiadol a bod swyddfa sefydliadau democrataidd a hawliau dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi nodi bod eu habsenoldeb yn risg diogelwch.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella uniondeb yr holl etholiadau a gynhelir yng Nghymru.