NNDM7817 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2021 | I'w drafod ar 02/11/2021

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.