NDM7815 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 27/10/2021 | I'w drafod ar 03/11/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod chweched tymor Senedd Cymru.

2. Yn nodi ymhellach gynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd.

3. Yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

4. Er mwyn helpu i adfer yn wyrdd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda Llywodraeth y DU a nodi cynllun i ddarparu miloedd o swyddi coler werdd ar gyfer economi wyrddach;

b) cyflwyno addewidion allweddol ar frys fel Bil aer glân, gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol, a chynllun dychwelyd ernes;

c) creu swyddfa annibynnol ar gyfer diogelu'r amgylchedd a newid hinsawdd i Gymru, a fydd yn dwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd;

d) darparu buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt morol ac alltraeth; a

e) diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol a'r rheolau cynllunio i bennu targedau a cherrig milltir hirdymor ar gyfer adfer natur yn ogystal â mandadu enillion net bioamrywiaeth ar ddatblygiadau newydd. 

Gwelliannau

NDM7815 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2021

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:

datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain lleoliad datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf ecolegol sensitif;

manteisio i'r eithaf ar botensial Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a datblygu economaidd drwy geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â datganoli pwerau ynni yn llawn;

buddsoddi mewn ymchwil datgarboneiddio, yn enwedig ar gyfer sectorau diwydiannol allweddol fel dur, i leoli Cymru fel arweinydd byd-eang mewn cryfderau Cymreig sy'n dod i'r amlwg fel hydrogen ac ynni morol;

cyflwyno targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau Cymru ar frys, gyda'r nod craidd o wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030 a gweld adferiad sylweddol mewn bioamrywiaeth erbyn 2050;

buddsoddi'n sylweddol mewn atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd a dirywiad mewn bioamrywiaeth, mewn amgylcheddau daearol a morol.

Cyflwynwyd gan

NDM7815 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2021

Dileu pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:

Yn gresynu at y gostyngiad o flwyddyn i flwyddy'n mewn termau arian parod o'r cyllid cyfalaf sydd ar gael o ganlyniad i fethiant adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng brys yn yr hinsawdd a natur, gan leihau cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 11 y cant mewn termau real erbyn 2024-25 o'i chymharu ag eleni.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lunio cynllun gweithredu sgiliau net sero sy'n hyrwyddo gwaith teg i gefnogi newid teg;

b) cyflwyno Bil aer glân i sefydlu fframwaith gosod targedau ansawdd aer, a fydd yn ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.;

c) sefydlu corff goruchwylio amgylcheddol i Gymru a chyflwyno targedau statudol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) gydnabod uchelgais Cymru i wahardd plastigau untro drwy wneud rheoliadau i beidio eu cynnwys o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;

b) diwygio Deddf y Diwydiant Glo 1994 i alluogi gweithredu polisi Llywodraeth Cymru i osgoi echdynnu tanwydd ffosil;

c) disodli, yn llawn, arian a dderbyniwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi buddsoddi yn natblygiad y diwydiant ynni morol yng Nghymru;

d) cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd prif reilffordd Gogledd Cymru a phrif reilffordd De Cymru fel cam sylweddol tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus net sero.

Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)

Deddf y Diwydiant Glo 1994 (Saesneg yn unig)