NDM7811 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2021 | I'w drafod ar 20/10/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad athrawon a staff ysgolion ledled Cymru drwy gydol pandemig COVID-19.

2. Yn cydnabod bod athrawon yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau digynsail wrth i ni symud allan o'r pandemig a gweithredu cwricwlwm newydd.

3. Yn credu bod y ffaith bod nifer yr athrawon yng Nghymru yn disgyn yn cael effaith andwyol ar allu dysgwyr i oresgyn effaith andwyol y pandemig ar eu haddysg.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun ar frys i hybu recriwtio athrawon, sy'n cynnwys:

a) gosod targedau i ddarparu 5,000 o athrawon ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf;

b) ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n mynd ymlaen i weithio fel athrawon am o leiaf bum mlynedd yn ysgolion Cymru;

c) sefydlu gwasanaeth cynghori ar addysg i Gymru i wella mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a sefydlu mwy o lwybrau i'r proffesiwn addysgu;

d) gwarantu o leiaf flwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg yng Nghymru i bob athro sydd newydd gymhwyso.

Gwelliannau

NDM7811 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2021

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn mynegi ei diolchgarwch i’r gweithlu addysg cyfan am flaenoriaethu lles dysgwyr ac am ei ymrwymiad i weithredu’r cwricwlwm newydd er gwaethaf pwysau digynsail y pandemig.

3. Yn credu bod lles y gweithlu addysg o’r pwys mwyaf.

4. Yn cydnabod bod dysgu proffesiynol yn hanfodol er mwyn sicrhau gweithlu brwd o ansawdd.

5. Yn condemnio penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ac effaith hynny ar athrawon ar adeg o bwysau digynsail ar y gweithlu.

6. Yn croesawu:

a) y cynnydd o 40 y cant yn y ceisiadau ar gyfer cyrsiau athrawon y llynedd.

b) y cynnydd o 15.9 y cant yng nghyflogau athrawon newydd yng Nghymru ers 2019, a’r cynnydd o 1.75 y cant y gwnaeth Llywodraeth Cymru helpu i’w sicrhau yng nghyflog pob athro eleni er gwaethaf y rhewi ar gyflogau’r sector cyhoeddus.

c) y ffaith bod cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon wedi helpu i baru dros 400 o athrawon sydd newydd gymhwyso ag ysgolion.

d) y ffaith bod ffocws Cymru ar ddysgu proffesiynol ymhlith athrawon wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth eithriadol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill OECD, ac yn darparu sylfaen gadarn i wella dysgu proffesiynol mewn ysgolion.

e) y ffaith bod Cymru yn arwain y ffordd â chanllawiau fframwaith statudol ar gyfer ysgol gyfan, sydd wedi’u dylunio i gefnogi lles staff yn ogystal â dysgwyr. 

Safbwyntiau Polisi Addysg OECD – Astudiaeth o Ddysgu Proffesiynol i Athrawon: Adroddiad Diagnostig i Gymru (Saesneg yn unig)

NDM7811 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2021

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod nifer fawr o ffactorau'n dylanwadu ar y ffaith bod nifer yr athrawon yn gostwng, gan gynnwys llwyth gwaith, biwrocratiaeth ddiangen, materion staffio a phersonél, prosesau arolygu, yn ogystal â materion sy'n ymwneud â chyllid a chyllidebu;

Yn credu ymhellach fod yn rhaid mynd i'r afael â materion recriwtio gan ddfefnyddio dull gweithredu aml-elfen, gan ganolbwyntio ar werthfawrogi'r proffesiwn a chreu gwell amodau gwaith a chyfleoedd.

Cyflwynwyd gan