NDM7805 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2021 | I'w drafod ar 19/10/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi'n llwyr
a) y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol.
b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).
2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar waith datblygu datganiad trawsbleidiol i Gymru sy'n ymgorffori egwyddorion CERD.
3. Yn croesawu dadorchuddio cerflun o Betty Campbell MBE yn Sgwâr Canolog Caerdydd i’w choffáu yn un o Ferched Mawreddog Cymru.
4. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru Wrth-Hiliol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (Saesneg yn unig)
Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru