NDM7802 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2021 | I'w drafod ar 06/10/2021

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7798, NDM7799, NDM7800 ac NDM7801 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 6 Hydref 2021.