NDM7801 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2021 | I'w drafod ar 06/10/2021Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw:
a) ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd fel y nodir yn ei adroddiad Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Medi 2020;
b) erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar Fil Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd.
3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.