NDM7800 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2021 | I'w drafod ar 06/10/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) Jayne Bryant (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;

b) Elin Jones (Llywydd) fel aelod o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;

c) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.37 i 17.39 yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

4. Yn penderfynu, lle mae angen pleidlais i waredu busnes, y bydd pleidleisio yn y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn gweithredu fel a ganlyn:

a) dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff y cadeirydd bleidleisio;

b) ni chaiff y Llywydd bleidleisio;

c) caiff pob aelod arall o'r Pwyllgor bleidleisio ac, os ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol, mae pob aelod yn cael un bleidlais ar gyfer pob aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn iddo (gan gynnwys ei hun a'r Llywydd a'r Dirprwy os yw’n aelodau o'i grŵp gwleidyddol);

d) rhaid pasio penderfyniad i gytuno ar argymhellion i'r Senedd ar bleidlais lle mae'r aelodau sy'n pleidleisio o'i blaid yn cario o leiaf 40 pleidlais.