NDM7793 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021 | I'w drafod ar 06/10/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd.
2. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.
3. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ifanc sy'n dod i'r ysbyty gyda phroblemau hunan-niweidio wedi codi 39 y cant ers 2007.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd y flwyddyn nesaf:
a) camau i weithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach;
b) adroddiadau blynyddol a phennu targedau ar gyfer amseroedd aros i gael triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau;
c) cyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;
d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'cyflwyno rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl a lles ieuenctid ataliol'.
Cyflwynwyd gan
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru.
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol:
a) gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach;
b) cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru;
c) cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;
d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru.