NDM7791 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2021 | I'w drafod ar 06/10/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn ei thrafodaethau presennol â'r undebau gofal iechyd, i ymrwymo i godiad cyflog mewn termau real uwchlaw'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7791 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2021

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod ymroddiad ac aberth holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

2. Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i bob rhanbarth a gwlad yn y DU, gan gynnwys Cymru, mewn cyllidebau olynol ac yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

3. Yn nodi argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol y GIG yng Nghymru a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyfarnu codiad cyflog o 3 y cant i staff y GIG.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys ag amodau gwaith fel cymorth iechyd meddwl, cadw staff, uwchsgilio a llenwi bylchau staffio o fewn y GIG, er mwyn sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

NDM7791 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2021

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru gan gynnwys ynghylch cyflogau'r GIG.