NDM7784 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2021 | I'w drafod ar 29/09/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu effaith economaidd gadarnhaol dileu tollau croesi Afon Hafren.
2. Yn gresynu at gynigion Llywodraeth Cymru a allai arwain at daliadau i fodurwyr sy'n defnyddio'r M4, yr A470, yr A55 a chefnffyrdd eraill.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddiystyru cyflwyno tollau a phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru;
b) hyrwyddo trafnidiaeth fwy gwyrdd drwy gymryd camau fel:
i) cynyddu'r ddarpariaeth o bwyntiau gwefru trydan ar rwydwaith ffyrdd Cymru;
ii) hyrwyddo teithio llesol ymhellach; a
iii) ymestyn tocynnau bws am ddim i bobl rhwng 16 a 25 oed.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwyntiau 1 a 2.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 3(a) a rhoi yn ei le:
'Gwella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a gwyrddach cyn ystyried cyflwyno tollau a phrisio ffyrdd ar ffyrdd Cymru'.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3(b):
ceisio datganoli llawn, gyda chyllid digonol, ar gyfer pob gwasanaeth rheilffordd yng Nghymru.
rhoi'r dasg i Drafnidiaeth Cymru o greu rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru gyfan, sy'n cysylltu'r gogledd â'r de a'n galluogi traffig rheilffordd rhwng y prif ganolfannau poblogaeth.
cyfuno rheilffyrdd â gwasanaeth bws a reoleiddir i sicrhau bod opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ddarparu ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys trefi bach a phentrefi sydd â chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus achlysurol yn unig ar hyn o bryd.
rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain
pennu targed cenedlaethol lle bydd 10 y cant o'r holl deithiau'n cael eu gwneud drwy feicio neu deithio ar sgwteri erbyn 2030.
archwilio cynigion ar gyfer priffyrdd a thwneli trydan yn unig mewn ardaloedd lle mae llygredd aer uchel a thagfeydd.
Cyflwynwyd gan
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd yn:
1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru
2. Galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;
b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu, er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus.