NDM7783 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2021 | I'w drafod ar 29/09/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pleidlais ystyrlon ar gyflwyno pasys COVID cyn iddynt ddod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru.

2. Yn credu, pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu bod angen cyflwyno pasbortau COVID, fod yn rhaid dod â'r gofyniad hwn gerbron Senedd Cymru am bleidlais sylweddol cyn iddynt gael eu cyflwyno.

3. Yn cydnabod bod ailagor cymdeithas wedi digwydd o ganlyniad i'r rhaglen frechu lwyddiannus ledled y DU.

Gwelliannau

NDM7783 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2021

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau erbyn 28 Medi ac yn cynnal dadl a phleidlais ar y defnydd gorfodol o’r pàs COVID mewn digwyddiadau a lleoliadau risg uchel, ar 5 Hydref.

2. Yn cydnabod bod cymdeithas wedi gallu ailagor diolch i aberth a gwaith caled dinasyddion Cymru yn ogystal â’r rhaglen frechu lwyddiannus.