NDM7780 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2021 | I'w drafod ar 22/09/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y newid mewn arferion gwaith o ganlyniad i bandemig COVID-19 a bod llawer o fanteision lles a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi dod o ganlyniad i hyn.

2. Yn credu bod angen diwygio arferion gwaith i ymateb i heriau'r chwyldro awtomeiddio.

3. Yn nodi â diddordeb bod llywodraethau yn yr Alban, Sbaen ac Iwerddon yn bwriadu cynnal cynlluniau peilot ar lefel genedlaethol ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.

4. Yn cydnabod bod cynlluniau peilot o wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi arwain at lawer o weithwyr yn symud i oriau byrrach heb ostyngiad mewn cyflog.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru i archwilio'r manteision i holl weithwyr Cymru, yr economi a'r amgylchedd.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7780 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2021

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y cynnydd a wneir drwy gynlluniau peilot mewn gwledydd eraill ac archwilio’r gwersi y gall Cymru eu dysgu.

NDM7780 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2021

Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.

NDM7780 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2021

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai cyflogwyr a gweithwyr gytuno ar drefniadau gwaith ac na ddylid gorfodi unrhyw weithwyr na chyflogwyr i fabwysiadu wythnos waith pedwar diwrnod.

NDM7780 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2021

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod materion cyflogaeth wedi'u cadw yn ôl i Senedd y DU.