NDM7779 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2021 | I'w drafod ar 22/09/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oddi tano gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol o hyd at 18 awr.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau mor heriol.
4. Yn cydnabod y pwysau mewn gofal cymdeithasol a sylfaenol a'r sgil-effeithiau ar y gwasanaeth ambiwlans.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.
b) cyflwyno cynllun cynhwysfawr i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, gan gynnwys camau i:
i) sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol digonol;
ii) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb; a
iii) cynyddu capasiti gwelyau mewn ysbytai.
c) nodi cynllun ac amserlen glir ar gyfer codi cyflog gweithwyr gofal ledled Cymru.
d) ystyried defnyddio cefnogaeth Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys.
e) ymdrechu'n galetach i recriwtio parafeddygon yn gyflym.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn amgylchiadau mor heriol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac yn bwrpasol;
b) cefnogi ystod o fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;
c) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol briodol;
d) gwireddu ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal;
e) parhau i gydweithio â Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys; a
f) ymdrechu'n galetach i recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:
Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal yn wirioneddol ar lefel genedlaethol
Hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff ychwanegol i'r GIG, gan gynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol eraill ym maes iechyd