NDM7767 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2021 | I'w drafod ar 14/07/2021

Cynnig bod y Senedd hon:

1. Yn nodi cyhoeddi sawl adroddiad yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan a Chlymblaid Gwrthdlodi Cymru ar ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim a graddau tlodi yng Nghymru.

2. Yn nodi bod llythyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Glymblaid Gwrthdlodi Cymru ac a lofnodwyd gan 10 sefydliad gwrthdlodi yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud ehangu prydau ysgol am ddim yn flaenoriaeth. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel bod pob disgybl ysgol mewn teulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol yn gymwys;

b) ymestyn hawliau prydau ysgol am ddim yn barhaol i ddisgyblion mewn teuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt;

c) cyhoeddi llinell amser ar gyfer gweithredu prydau ysgol am ddim i bawb fesul cam er mwyn gwarantu cinio ysgol maethlon o ffynonellau lleol i bob disgybl ysgol.

Sefydliad Bevan: Expanding the provision of free school meals in Wales (Saesneg yn unig)

Sefydliad Bevan: Expanding the eligibility criteria for free school meals (Saesneg yn unig)

Sefydliad Bevan: Snapshot of poverty in spring 2021 (Saesneg yn unig)

Mae copi o'r llythyr a gaiff ei grybwyll ym mhwynt 2 o'r cynnig wedi cael ei anfon i Aelodau o'r Senedd.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7767 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2021

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (c).

NDM7767 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2021

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi cychwyn adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn unol â’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, gyda’r bwriad o ymestyn yr hawl, mae data dros dro y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn dangos bod 108,203 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, cynnydd o bron i 18,000 ers CYBLD 2020;

b) wedi darparu £60 miliwn ychwanegol ers dechrau’r pandemig i ddarparu prydau ysgol am ddim ychwanegol yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21 ac wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am ei chymorth i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig;

c) yn mynd i ddarparu £23.3 miliwn ychwanegol i ymestyn prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol ym mlwyddyn ariannol 2021-22, gan sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU; ac 

d) yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu’r unig gynllun cyffredinol i roi brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn y DU.

Rhaglen lywodraethu