NDM7744 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2021 | I'w drafod ar 07/07/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r rôl sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen.

2. Yn nodi pwysigrwydd busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein cymunedau a'n heconomïau lleol.

3. Yn nodi ymhellach yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.