NNDM7742 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod gwyliau blynyddol yn ffactor pwysig o ran atal marwolaeth o unrhyw achos heblaw henaint;
b) bod gwyliau yn galluogi pobl i ddianc rhag straen bywyd bob dydd, ail-osod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, treulio amser o safon gydag anwyliaid ac mae'n darparu lle i fyfyrio ar obeithion a breuddwydion y dyfodol;
c) bod yr aberth a wnaed dros yr 16 mis diwethaf yn gwneud gwyliau hyd yn oed yn bwysicach o ran helpu pobl i adfer o COVID-19;
d) bod cost llawer o lety gwyliau wedi cynyddu'n sylweddol yn sgil y galw cynyddol am gymryd gwyliau yng Nghymru.
2. Yn croesawu, yn sgil cyngor Llywodraeth Cymru i beidio â chymryd gwyliau dramor yr haf hwn, y gefnogaeth barhaus i'r rhaglen gwella gwyliau'r ysgol fel rhan o'r rhaglen ailosod ac adfer ar gyfer pobl ifanc.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau sydd wedi'u cymryd i:
a) nodi'r data cyn COVID diweddaraf sydd ar gael ar gyfran yr aelwydydd yng Nghymru nad oeddent byth yn cymryd gwyliau blynyddol;
b) cynyddu'r ddarpariaeth o lety gwyliau dros dro mewn gwersylloedd, gwely a brecwast a hosteli yng Nghymru'r haf hwn;
c) ehangu argaeledd a hygyrchedd bysiau a threnau er mwyn i bobl allu ymweld â lleoedd y tu allan i'w cymuned eu hunain yr haf hwn;
d) cynyddu'r ddarpariaeth o weithgareddau gwyliau yn y gymuned, gan y sector gwirfoddol ac yn y sector cyhoeddus gartref er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ailosod ac adfer lles dros fisoedd yr haf mewn amgylchedd sy'n ddiogel rhag COVID.