NDM7731 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2021 | I'w drafod ar 23/06/2021

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, a 19 y Senedd. O dan Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013; O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru, a chynnydd y pwerau hynny. Gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.