NDM7728 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2021 | I'w drafod ar 23/06/2021Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;
2. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ceidwadwyr Cymreig;
3. Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig – Ceidwadwyr Cymreig;
4. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Plaid Cymru;
5. Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Llafur;
6. Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Plaid Cymru;
7. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Llafur;
8. Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;
9. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;
10. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Llafur;
11. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur;
12. Y Pwyllgor Deisebau - Llafur.