NDM7722 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2021 | I'w drafod ar 20/10/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) deddfu ar gyfer cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol, y cymorth ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr;

b) rhoi dyletswydd statudol ar waith i ddyblu maint yr economi gydweithredol erbyn 2026 ac i fynd ati i hyrwyddo perchnogaeth a phryniant gan weithwyr;

c) rhoi cymorth a chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o fusnes sy'n wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu cwmni cydweithredol i weithwyr;

d) sicrhau bod pob cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r bartneriaeth gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr.