NDM7711 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2021 | I'w drafod ar 16/06/2021

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7711 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2021

Ar ôl 'tai' mewnosoder:

'gan gynnwys cymryd camau i:

a) sichrau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;

b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru;

c) cael gwared ar y dreth trafodiadau tir ar gyfer prynwyr tro cyntaf;

d) gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae landlordiaid cofrestredig cyfrifol yn ei wneud i ddarparu llety addas i denantiaid; ac

e) cyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau.'