NDM7708 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2021 | I'w drafod ar 15/06/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cytuno nad yw ymateb Llywodraeth y DU i Gronfa Codi’r Gwastad a chyllid olynol yr UE yn ehangach yn gwarantu na fydd Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai a’i fod yn ymosodiad amlwg ar ddatganoli yng Nghymru.

2. Yn cytuno bod peilot Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021-22 yn cynrychioli toriad cyllid sylweddol i Gymru oherwydd byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn o leiaf £375m y flwyddyn ar ffurf cronfeydd strwythurol yr UE.

3. Yn nodi bod y toriad hwn yn y cyllid sydd ar gael yn fygythiad i swyddi a gwasanaethau yng Nghymru.

4. Yn rhannu’r pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael a’r broses ar gyfer cyflawni a fynegwyd yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig mewn perthynas â chynigion Llywodraeth y DU. 

5. Yn nodi disgrifiad y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU annibynnol o gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Codi’r Gwastad fel ‘centrally controlled funding pots thinly spread across a range of initiatives’.

6. Yn cytuno nad yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nac ennill mandad i dorri cronfeydd olynol yr UE i Gymru na thanseilio’n unochrog ddatganoli yng Nghymru.

7. Yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru a bod rhaid i Lywodraeth y DU roi’r gorau i ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol yn y fath fodd ag sy’n golygu bod llai o lais gan Gymru.

Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU: prospectws 2021-22 (Saesneg yn unig)

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Materion Cymreig - 27 Mai 2021 (Saesneg yn unig)

Adroddiad Blynyddol Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU 2021 (Saesneg yn unig)

Deddf y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM7708 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2021

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cronfa ffyniant gyffredin y DU a'i bwriad i leihau anghydraddoldebau rhwng cymunedau ledled y DU.

2. Yn cytuno na ddylai cyllideb flynyddol cronfa ffyniant gyffredin y DU fod yn llai na ffrydiau ariannu'r UE a'r DU y mae'n eu disodli.

3. Yn croesawu rôl llywodraeth leol yn y broses o ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y DU. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu system i olrhain a mesur effaith a chanlyniadau dymunol y gronfa.

NDM7708 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2021

Cynnwys pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn yn anghyson â'r dull o ymdrin â chyllid a ddarparwyd gan yr UE yn flaenorol a oedd yn seiliedig ar angen.

Yn galw am dryloywder gan Lywodraeth y DU ar y meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal yng Nghymru yn colli allan ar gyllid.

Cyflwynwyd gan

NDM7708 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2021

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gerbron y Senedd asesiad effaith sy'n dangos effaith y trefniadau ariannu hyn ar ddosbarthu cyllid ledled Cymru a gwneud penderfyniadau datganoledig yng Nghymru.

Cyflwynwyd gan