NDM7683 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 17/03/2021 | I'w drafod ar 24/03/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru.
2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud o ran yr economi.
3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben.
4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg.
5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:
a) creu 65,000 o swyddi newydd, gydag o leiaf 15,000 o swyddi gwyrdd;
b) mynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn amseroedd aros yng Nghymru;
c) rhoi'r gorau i danariannu ein pobl ifanc;
d) adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 ynghyd ag uwchraddio'r A40 a'r A55;
e) cefnogi pobl gyda chostau byw drwy rewi'r dreth gyngor am ddwy flynedd;
f) rhoi Cymru ar y llwybr tuag at sero net erbyn 2050.
BBC Newyddion - Theresa May claims Welsh Labour betrayed generation of children - 18 Mai 2018 (Saesneg yn unig)
BBC Newyddion - Labour minister: 'We don't know what we're doing on economy' - 25 Mehefin 2019 (Saesneg yn unig)
BBC Newyddion - Covid: Cancer delays 'could cause 2,000 deaths in Wales' - 9 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:
a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;
b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;
c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;
d) datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;
e) adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.
2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan, benderfynu ar ein dyfodol.
Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.