NDM7682 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 17/03/2021 | I'w drafod ar 24/03/2021

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2021.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.