NDM7675 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 17/03/2021 | I'w drafod ar 24/03/2021Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.