NDM7622 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/03/2021 | I'w drafod ar 09/03/2021

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:

1. Yn cymeradwyo'r Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021.

2. Yn nodi bod y categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021.

3. Yn nodi ymhellach yr addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cyflwynwyd gan