NDM7609 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 24/02/2021 | I'w drafod ar 03/03/2021

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre:

a) Deiseb ‘P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig’ a gasglodd 5,348 o lofnodion;

b) Deiseb ‘P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol’ a gasglodd 11,392 o lofnodion.